OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 79 (Cy. 36) (C. 6)
Rheoli perygl llifogydd, cymru
Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”) o ran Cymru.
Mae erthygl 2 yn pennu darpariaethau Deddf 2010 a ddaw i rym (i'r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn) ar 1 Ebrill 2016 o ran Cymru yn unig. Mae'r darpariaethau hyn yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p. 23) i gyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd mewn perthynas â diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr.
Mae erthygl 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed mewn perthynas â'r diwygiadau i Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dygwyd darpariaethau canlynol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth yn y Ddeddf |
Y dyddiad cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 1 (yn rhannol) |
1 Medi 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 1 (y gweddill) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 2 (yn rhannol) |
1 Medi 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 2 (y gweddill) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 3 (yn rhannol) |
1 Medi 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 3 (y gweddill) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 4 (yn rhannol) |
1 Medi 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 4 (y gweddill) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 5 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 6 (yn rhannol) |
1 Medi 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 6 (y gweddill) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adrannau 7 i 10 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 11 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Adran 11 (o ran Cymru yn unig) |
1 Tachwedd 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Adran 12 |
1 Tachwedd 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Adran 13 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 14 |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 15 (yn rhannol) |
18 Ionawr 2011 |
2011/95 (C. 4) |
Adran 15 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 16 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 17 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 17 (y gweddill) |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 18 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Adran 18 (o ran Cymru yn unig) |
1 Tachwedd 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Adran 19 |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 20 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 21 |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 22 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 22 (y gweddill) |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 23 |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 24 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 25 |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 26 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 27 |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Adrannau 28 a 29 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 30 (yn rhannol) |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adran 30 (y gweddill) |
1 Awst 2012 |
2012/2000 (C. 79) |
Adran 31 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
|
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
|
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
|
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
|
6 Ebrill 2012 |
2012/879 (C. 25) |
|
Adran 33 (yn rhannol)
Adran 33 (yn rhannol o ran Lloegr) |
1 Hydref 2011
30 Gorffennaf 2013
|
2011/2204 (C. 80)
2013/1590 (C. 64)
|
Adran 34 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
|
Adran 35 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 36 (yn rhannol) |
1 Medi 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 36 (y gweddill) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adran 37 |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Adrannau 38 a 39 (yn rhannol) |
18 Ionawr 2011 |
2011/95 (C. 4) |
Adrannau 38 a 39 (y gweddill) |
1 Rhagfyr 2011 |
2011/2856 (C. 101) |
Adrannau 40 a 41 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Adrannau 42 a 43 (yn rhannol)
Adran 42 (y gweddill o ran Cymru yn unig). |
1 Hydref 2010
1 Hydref 2010
|
2010/2169 (C. 108)
2010/2169 (C. 108)
|
Adran 44 |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Adran 45 (yn rhannol)
Adran 45 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) |
1 Hydref 2010
1 Ionawr 2015
|
2010/2169 (C. 108)
2014/3155 (W. 317) (C. 137)
|
Adrannau 46 a 47 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Yn Atodlen 1— |
|
|
Paragraffau 15 a 16 (yn rhannol) |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Paragraff 17 |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Atodlen 1 (y gweddill) |
1 Awst 2012 |
2012/2000 (C. 79) |
Yn Atodlen 2— |
|
|
Paragraffau 1 i 24 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 1 i 24 (o ran Cymru yn unig) |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraff 25 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Paragraffau 26 a 27 |
6 Ebrill 2012 |
2012/879 (C. 25) |
Paragraff 28 |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Cymru yn unig) |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 31, 32(1) i (3) a (5) i (7), 33 a 34 |
6 Ebrill 2012 |
2012/879 (C. 25) |
Paragraffau 35 a 36 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 35 a 36 (o ran Cymru yn unig) |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraff 37 |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Cymru yn unig) |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 40, 41, 43 a 44 |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Cymru yn unig) |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraff 48 |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Paragraff 49 (o ran Lloegr yn unig) |
19 Gorffennaf 2011 |
2011/1770 (C. 7) |
Paragraff 49 (o ran Cymru yn unig) |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 50 i 53 |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Paragraff 54 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Paragraff 54 (y gweddill) |
6 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Yn Atodlen 4— |
|
|
Paragraff 1 |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27, 30, 31, 32, 33 a 37 -(yn rhannol) |
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80) |
Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27 a 33 (y gweddill o ran Lloegr yn unig).
Paragraffau 3, 5, 6, 8, 9, 11, 13 i 21, 23, 24, 26, 28, 29, 34 i 36 a 41 (o ran Lloegr yn unig).
Paragraffau 38 i 40, 42 a 43 |
30 Gorffennaf 2013
30 Gorffennaf 2013
1 Hydref 2011 |
2011/2204 (C. 80).
2013/1590 (C. 64)
2011/2204 (C. 80) |
Yn Atodlen 5— |
|
|
Paragraffau 1 a 2 |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Paragraff 3 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
Paragraff 4 |
1 Ebrill 2011 |
2011/694 (C. 25) |
Paragraffau 5 a 6 (yn rhannol) |
1 Hydref 2010 |
2010/2169 (C. 108) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 79 (Cy. 36) (C. 6)
rheoli pergyl Llifogydd, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2016
Gwnaed 26 Ionawr 2016
Yn dod i rym 1 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 48(2) a 49(3)(i) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010([1]).
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd
a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru)
2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Deddf 2010” yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010; ac
(b) ystyr “Deddf 1975” yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975([2]).
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2016
2. Daw'r darpariaethau canlynol yn Neddf 2010, i'r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eisoes, i rym ar 1 Ebrill 2016—
(a) adran 33 (cronfeydd dŵr);
(b) paragraffau 2 i 11, 13 a 14 o Atodlen 4 (cronfeydd dŵr);
(c) paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn (gweler erthygl 3);
(d) paragraffau 20 i 29, 33 i 36 a 41 o Atodlen 4.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar y diwrnod cymwys o ran cyforgronfeydd dŵr mawr cyn-gychwyn
3.—(1)(1) Daw paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf
2010 i rym ar y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa
ddŵr fawr cyn-gychwyn.
(2) Mae cronfa ddŵr yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn os oedd wedi ei chofrestru fel cyforgronfa ddŵr fawr o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985([3]) yn union cyn 1 Ebrill 2016.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a) 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn dynodi’r gronfa ddŵr honno yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b) 1 Ebrill 2017.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo cyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn—
(a) wedi ei dynodi yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b) mae ymgymerwr y gronfa ddŵr yn apelio yn erbyn y dynodiad o dan Reoliad 4(1) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016([4]).
(5) Mewn unrhyw achos pan fo paragraff (4) yn gymwys, y diwrnod cymwys yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a) y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl yn rhinwedd rheoliad 4(2) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016; a
(b) 1 Ebrill 2017.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2016